Colli o 21-17 oedd hanes y Dreigiau wrth iddyn nhw herio Benetton yn Rodney Parade ar ddiwrnod cyntaf tymor y PRO14 neithiwr.
Sgoriodd y clo Alessandro Zanni ddau gais ac roedd cais arall i’r blaenasgellwr Braam Steyn, er i’r Dreigiau ddechrau’n gryf.
Sgoriodd Dafydd Howells chwip o gais o 30 metr ar ôl 69 eiliad yn unig ar ôl rhyng-gipiad celfydd, ac fe gafodd ei drosi gan Gavin Henson.
Ond ymatebodd yr Eidalwyr gyda chic i’r gornel i sicrhau lein ac fe yrrodd Alessandro Zanni drosodd am gais yn y seithfed munud.
Gallai’r Dreigiau fod wedi sicrhau ail gais ar ôl 20 munud, ond fe gollodd Dafydd Howells ei afael ar y bêl yn agos at y llinell gais.
Aeth yr Eidalwyr ar y blaen unwaith eto o 11-7 drwy ddwy gic gosb gan Tommaso Allan.
Daeth cic gosb i’r Dreigiau’n gynnar yn yr ail hanner, ac mi gafodd ei chicio gan Gavin Henson i leihau’r bwlch, ond aeth yr Eidalwyr ymhellach ar y blaen wrth i Braam Steyn groesi am gais.
Daeth cais unwaith eto i’r Eidalwyr wrth i Alessandro Zanni groesi ar yr ochr chwith i’w gwneud hi’n 21-10 ar ôl 57 munud.
Roedd hi’n 21-17 gyda phum munud yn weddill ar ôl i’r mewnwr Rhodri Williams groesi am gais. Daeth y trosiad gan Josh Lewis.