Mae rhai cannoedd o gefnogwyr Yes Cymru wedi bod yn protestio’r tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd heddiw.
Roedden nhw yno i ddangos eu gwrthwynebiad i gynlluniau i gludo mwd o safle atomfa Hinckley i arfordir de Cymru.
Ymysg y siaradwyr yn y rali roedd yr Aelod Cynulliad annibynnol lleol, Neil McEvoy, a’r Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans.
Pryder y protestwyr yw y gall y mwd fod yn ymbelydrol, ac nad yw datblygwyr yr atomfa newydd, EDF, wedi ei brofi’n ddigon trylwyr i sicrhau ei ddiogelwch.
Mae Neil McEvoy wedi bod yn cyhuddo Llywodraeth Cymru a’r gwrthbleidiau yn y senedd o esgeulustod wrth beidio â gwrthwynebu’r cynlluniau.
“Does dim byd yn dangos yn gliriach bod gennym lywodraeth ym Mae Caerdydd sy’n gweithredu’n groes i’n buddiannau cenedlaethol,” meddai.
Mae Yes Cymru hefyd wedi mynegi siom ar ôl y rali mai Adam Price oedd yn unig Aelod Cynulliad arall yno. “Ble’r oedd y 58 arall?” oedd sylw eu llefarydd.
Dywedodd Adam Price ei fod yn hapus o gefnogi’r rali:
“Nid rhyw fath o ‘dumping ground’ yw Cymru,” meddai. “Yn ein dwylo ni’n hunain, dylai ein dyfodol fod yn ddisglair ac yn gynaliadwy.”