Mae dyn 19 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio 17 o bobol mewn ysgol yn Parkland, Fflorida.
Yn ôl adroddiadau lleol, mae Nikolas Cruz yn fachgen amddifad a oedd wedi ei wahardd o Ysgol Marjory Stoneman Douglas.
Mae 15 o bobol hefyd yn yr ysbyty ar ôl yr ymosodiad ddoe – y deunawfed ymosodiad mewn ysgol yn yr Unol Daleithiau elen, a’r gwaetha’ ers pum mlynedd.
Arfau
Yn ôl yr heddlu, roedd gan Nikolas Cruz grenêds mwg, mwgwd nwy a reiffl lled-otomatig gyda llwyth o fwledi.
Roedd wedi tanio larwm tân yr ysgol er mwyn gyrru’r 3,000 o blant allan i’r coridorau a’i gwneud hi’n haws iddo ef eu saethu.
Mae rhagor o fanylion yn dechrau dod i’r wyneb amdano – roedd yn blentyn amddifad oedd wedi ei fabwysiadu ond roedd ei fam fabwysiedig wedi marw ym mis Tachwedd y llynedd.
Fe ddywedodd un o ddisgyblion yr ysgol wrth y wasg yn lleol ei fod yn ymddwyn yn rhyfedd ac roedd wedi ei wahardd o’r ysgol am ymosod ar gariad newydd ei gyn-gariad ef.