Mae oen wedi ei werthu gan ffermwr o Swydd Gaer am £367,500.

Gwerthwyd yr hwrdd gan Charlie Boden o Stockport, a phrynwyd yr anifail gan dri ffermwr ar y cyd.

“Y Texel i ddechrau yw’r brîd gorau yn y DU ac mae’r ochr pedigri ohono’n cynyddu. Os ydych chi eisiau’r gorau mae’n rhaid i chi dalu amdano”, meddai Jeff Aiken, un o’r prynwyr.

“Mae’n anifail anhygoel, dyma’r oen Texel orau a welais erioed. Gobeithio y bydd yn gwneud gwaith i ni’n tri.”

Yn ôl Cymdeithas Defaid Texel y record flaenorol oedd £231,000.