Heddlu’n “ymdrin â digwyddiad” yng Nghaerdydd

Mae Heddlu’r De yn dweud eu bod nhw’n “ymdrin â digwyddiad” ar drosffordd Gabalfa yng Nghaerdydd.

Mae’r A48 ynghau i’r dwyrain a’r gorllewin o dan y drosffordd, ac mae’r drosffordd ynghau i gyfeiriad y de.

Mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi’r ardal am y tro, ond does dim rhagor o fanylion am natur y digwyddiad ar hyn o bryd.

Dywed yr heddlu y byddan nhw’n cyhoeddi rhagor o wybodaeth maes o law.

 

Brexit: Prydain ar fin gadael heb gytundeb

Llywodraeth Prydain yn dal i rybuddio nad yw cynnig yr Undeb Ewropeaidd yn ddigon da ar ddiwrnod ola’r trafodaethau

Darllen rhagor

Crynodeb Cymru Premier (12/12/20)

gan Gwilym Dwyfor

Golwg ar gemau’r penwythnos yn Uwch Gynghrair Cymru

Darllen rhagor

Brexit eisoes yn creu anhrefn ar gyrion Calais

Ciwiau o lorïau yn ymestyn am 10 milltir ac achosi oedi am hyd at 5 awr

Darllen rhagor

Elfyn yn dod mor agos at ennill… ond yn bencampwr y dyfodol?

gan Rhys Davies

Gydag Elfyn Evans wedi dod mor agos at fod yn bencampwr byd, golwg360 sy’n edrych yn ol ar ei dymor… ac ar ei ddyfodol disglair

Darllen rhagor

Ysgolion cynradd Môn am ddysgu o bell

Oherwydd staff a disgyblion yn profi’n bositif i’r Coronafeirws neu’n gorfod hunan-ynysu, bydd holl ysgolion cynradd Sir Fôn yn dysgu o bell o ddydd Mawrth (Rhagfyr 15) tan ddiwedd y tymor.

Fe fydd plant gweithwyr allweddol a phlant bregus yn cael gofal tan ddiwedd yr wythnos.

“Mae symud i ddysgu o bell ychydig ddyddiau yn fuan – gydag athrawon yn rhoi gwersi o bell – yn rhoi ychydig o le i bawb allu anadlu,” meddai’r Cynghorydd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Fôn.

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd yr holl ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun.

Pryder am gynnydd achosion Covid-19 Ceredigion

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cyfradd achosion Covid-19 Ceredigion wedi codi i’w lefel uchaf erioed ers dechrau’r pandemig.

Cafodd 150 o achosion newydd eu cadarnhau dros y saith diwrnod diwethaf gan godi cyfradd y sir i 206.3 fesul 100,000 o’r boblogaeth.

Mae pryder penodol am raddau’r  cynnydd yn ardal Aberaeron a Llanrhystud, sydd bellach wedi cyrraedd 507.3 fesul 100,000 o’r boblogaeth ac ardal Llanbedr Pont Steffan a Llanfihangel Ystrad sy’n parhau’n uchel ar 388.2 fesul 100,000 o’r boblogaeth (7 diwrnod rhwng 2 a 8 Rhagfyr).

Mae’r Cyngor Sir yn apelio ar drigolion i ddilyn y canllawiau i gadw eu teuluoedd yn ddiogel ac yn gofyn iddyn nhw gyfyngu eu cyswllt â phobl y tu allan i’w cartref.

STEIL. Alex Humphreys

gan Bethan Lloyd

Mae cael swydd newydd yn cyflwyno’r tywydd wedi rhoi esgus da i’r ferch o Sir y Fflint brynu dillad newydd

Darllen rhagor