Llwyddais i ddianc unwaith eto, a hynny o’r gwynt a’r glaw a fu’n nodwedd annifyr o’n bywydau yng Nghymru fach ers mis Hydref.

I dde Ffrainc y tro hwn. Hedfan o Fryste a chael y pleser o weld Vaughan Gething ac aelodau o’i deulu yno’n aros am hediad. Tybed ydy e’n cofio bod ei Lywodraeth yn berchen ar faes awyr yng Nghaerdydd ac mai da o beth fyddai iddo (fel ein Prif Weinidog) i gefnogi’r lle hwnnw?