“Dylai’r pŵer i benderfynu sut i greu cyfoeth, ac yn hollbwysig, sut ddylai gael ei ddosbarthu er budd holl bobl a chymunedau Cymru, fod yn nwylo pobl Cymru. Rydym yn wynebu argyfwng tai yma yng Nghymru. Dylai bod yn hawdd i bawb gael tai fforddiadwy.”

Dyma neges rymus yr Aelod Seneddol Llafur, Beth Winter, yn ystod gorymdaith ‘Nid yw Cymru ar Werth’ y Sadwrn diwethaf.