Mae’r ffaith fod Donald Trump wedi ysgubo i fuddugoliaeth yn sgîl y math o ymgyrch a ymladdodd yn beth ofnadwy iawn. Gellir dod o hyd i bob math o resymau pam fod y Democratiaid a Joe Biden a Kamala Harris yn amhoblogaidd, ond does bosibl na fuasai dulliau ymgyrchu Trump wedi argyhoeddi gwerin yr Unol Daleithiau ei fod yn ddyn cwbl anaddas i fod yn arwain y wlad.