Mae arbenigwr Ewropeaidd ar gerddoriaeth, technoleg a gwyddoniaeth, yn annog cerddorion gwerin Cymraeg i beidio defnyddio Facebook i farchnata eu hunain.

Roedd Ricardo van Milders, perchennog y cwmni Muzaic.ai a’r asiantaeth Moon Jelly, yn rhan o sesiwn drafod yng nghynhadledd cerddoriaeth byd WOMEX – neu ‘Olympics y byd cerddorol’ – ym Manceinion yn ddiweddar.