Mae dros 40,000 o bobol yn dilyn cyfrif ffasiwn Instagram yr athrawes gynradd o dref Llanrwst yn Nyffryn Conwy.

Ers dechrau tudalen @gracecharlesstyle fis Tachwedd y llynedd, mae’r ferch 26 oed wedi bod yn rhoi tips steilio i fenywod Cymru a thu hwnt – o ddillad bob dydd, ffrogiau i fynd i briodasau neu’r ffasiwn ddiweddaraf i edrych y part ar faes yr Eisteddfod.