Y casgliad diweddaraf o ganeuon Cowbois Rhos Botwnnog gipiodd deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni.

Mynd â’r tŷ am dro yw chweched record hir y brodyr o Ben Llŷn, ac fe ddaethon nhw uwchlaw artistiaid dawnus megis Meinir Gwilym, The Gentle Good, Pys Melyn a Los Blancos a chyrraedd y brig yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ddechrau’r mis.