Portread o Ffion Hâf Roberts

Mae cyffro yn y Cymoedd ddyddiau cyn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Bontypridd, ac un fydd yng nghanol y bwrlwm yw merch 17 oed o Gaerffili.

Bydd Ffion Hâf Roberts yn cymryd rhan yn seremonïau eiconig y Coroni a’r Cadeirio, a’r Fedal Ryddiaith, ynghyd â’r ddwy seremoni i dderbyn aelodau newydd yr Orsedd.