Portread o Non Dafydd
Ynys Môn, Cymru a’r iaith Gymraeg sy’n tanio Is-Gadeirydd newydd cyngor sir yr ynys yn ei blaen.
“No, na, nefar” fyddai ateb Non Dafydd wedi bod pe bai rhywun wedi gofyn iddi sefyll i fod yn gynghorydd dair blynedd yn ôl.
Ond, pan gododd yr angen am ymgeiswyr Plaid Cymru i sefyll yn yr etholiad lleol diwethaf yn 2022, newidiodd rhywbeth.
Mae Non, sydd wedi’i magu ar fferm Tryfil yn Llandrygarn, rhwng Llangefni a Chaergybi, wedi bod yn rhedeg swyddfa Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, ers 2013.
Erbyn hyn, mae’r fam i ddau yn gwneud hynny’n rhan amser ac yn treulio gweddill ei hamser yn cwffio dros fuddiannau trigolion Canolbarth Ynys Môn ar y cyngor sir.
Yn ddiweddar, mae Non, fu’n gweithio i Fenter Iaith Môn am ddeng mlynedd cyn mynd i swyddfa Rhun ap Iorwerth, wedi cael ei hethol yn Is-Gadeirydd Cyngor Môn.
Fe gafodd ei magu yn sŵn gwleidyddiaeth, gyda’i thad yn gefnogwr Plaid Cymru brwd, ac mae ganddi atgofion cynnar o fynd i ganfasio ar yr ynys yn ei gwmni.
“Ffermwr ydy dad, a doedd ganddo fo ddim llawer o ddiddordeb yn yr ysgol, ffarmio oedd bob dim. Ond mae gwleidyddiaeth wastad wedi bod yn destun rownd y bwrdd bwyd yn tŷ ni,” meddai Non.
Graddiodd mewn Cymraeg a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, a gwneud diploma mewn newyddiaduraeth. Ond doedd gyrfa yn gohebu ddim yn apelio, a phan ddaeth y cwrs i ben cafodd swydd yn rhedeg swyddfa Ieuan Wyn Jones, pan oedd yn Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad, yng Nghaergybi.
“Roedd o’n brofiad briliant, roeddwn i’n sgrifennu datganiadau i’r wasg i Ieuan ac yn ei ddreifio fo o gwmpas Ynys Môn o le i le ac yn dysgu lot am wleidyddiaeth wrth wneud hynny,” meddai Non, fu yn y swydd am flwyddyn cyn symud at y mentrau iaith.
“Mae unrhyw un sy’n adnabod fi’n ystyried fy mod i’n reit Gymreig, ella fy mod i ddim mor wleidyddol – mae unrhyw beth Cymraeg yn agos iawn at fy nghalon i, a dw i wir yn meddwl ein bod ni i fod i ymfalchïo yn ein Cymreictod a chael balchder, yn hytrach na’r agwedd sydd i’w chael gan bobol sy’n tueddu i fod yn cywilyddio ac ymddiheuro am siarad Cymraeg. Dw i’n credu ein bod ni’n bwysicach na hynny.
“Roedd cael gweithio i’r Fenter Iaith, yn hynny o beth, yn beth da.”
O weithio i Rhun ap Iorwerth, mae Non yn gyfarwydd â’r sylwadau cas sy’n cael eu cyfeirio at wleidyddion ar y cyfryngau cymdeithasol. Wyneb yn wyneb, mae pobol yn garedig, atega.
“Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn newid pobol,” meddai Non, sy’n fam i Gwenlli, 14, a Lludd sy’n naw.
“Tasa rywun wedi gofyn i fi dair blynedd yn ôl os fyswn i’n sefyll fel cynghorydd, no way, dim dros fy nghrogi fysa’r ateb.
“Ond pan ddaeth yr amser, roedd yna rywbeth yn fy mhen i’n dweud: ‘Ia, gwna hynna’. Yn yr un modd efo bod yn Is-Gadeirydd.
“Dydy o ddim yn uchelgais na dim byd erioed i fod yn ddim un ohonyn nhw, ond pan mae’r peth yn digwydd, rwyt ti reit hapus efo fo. Dw i ddim yn berson uchelgeisiol iawn, ond dw i’n ddiolchgar o’r cyfleon yma sydd wedi dod.”
Pan ofynnwyd iddi fod yn Is-Gadeirydd, mae Non yn cyfaddef ei bod hi’n meddwl mai jôc oedd y cynnig i ddechrau.
“Dw i’n sicr ddim yn ystyried fy hun fel person o bwysigrwydd o gwbl, ac mae’r syniad o fod yn gwisgo cadwyn aur a ballu yn wahanol iawn i sut dw i, a phobol sy’n adnabod fi, yn edrych ar fy hun.
“Ond fe wnes i ddod i ddeall mai cynrychiolaeth o’r cyngor sir ydy’r gadwyn.
“Mae pobol yn tueddu i feddwl y gwaethaf ohono fo, ond rydyn ni’n gwybod bod Cyngor Ynys Môn yn un o’r cynghorau sy’n cael ei redeg fwyaf effeithiol drwy Gymru.”
Aeth dros chwarter canrif heibio ers i adroddiad gael ei gyhoeddi’n beirniadu’r ffordd roedd y cyngor wedi bod yn cael ei redeg ers dau ddegawd. Ar ôl degawd arall o ddadlau a mesurau arbennig, daeth sefydlogrwydd yn 2013.
“Dyna wnaeth arwain fi i sefyll [fel cynghorydd], mewn ffordd, achos fy mod i’n grediniol bod rhaid parhau i gael cyngor fedrwn ni ymddiried ynddo, cyngor sy’n destun balchder i drigolion Môn,” meddai Non.
Er bod y rhan fwyaf o’i hamser yn cael ei dreulio mewn cyfarfodydd neu’n magu ei phlant, mae Non wedi cael cyfle i droi’n ôl at un o’i diddordebau mawr yn ddiweddar a chael actio mewn panto Nadolig ar lwyfan Theatr Fach Llangefni.
“Actio ydy fy niléit i wedi bod erioed, dw i’n caru bod ar lwyfan. Actores oeddwn i eisiau bod, ond efallai bod dim digon o sicrwydd,” meddai Non, sydd ar bwyllgor Theatr Fach Llangefni hefyd.
“Ddaeth criw Theatr Fach a gofyn a oeddwn i eisiau actio’r Ddynes Ddrwg, a dw i’n hoffi bod yn y ddynes ddrwg weithiau, am fy mod i byth yn ddynes ddrwg mewn bywyd go-iawn. Mae hi’n braf cael rhoi wig ac ewinedd gwyrdd ymlaen a chwerthin fel gwrach.”
Ar y cyd â’i merch, mae Non yn creu clustlysau dan yr enw Miri Mwyn hefyd, ac maen nhw’n “gwerthu fel slecs” yn Oriel Môn.
Ei chariad mawr arall, a hynny ers cael gwers ar wyliau sgïo yn Andorra yn ei hugeiniau, yw eirafyrddio.
“Roeddwn i’n sgïo rywfaint ond roedd fy mhengliniau i’n brifo’n sgïo, ond roeddwn i’n licio bob dim arall am yr eira.
“Ddes i adre o’r gwyliau a dweud wrth mam fy mod i wedi syrthio mewn cariad, ac roedd mam yn poeni fy mod i wedi syrthio mewn cariad efo ryw ddyn o dramor… ond wedi syrthio mewn cariad efo eirafyrddio oeddwn i.
“Dw i’n caru bod ar yr eira, ond yn fam sengl does, gen i ddim digon o arian i fynd. Ond dw i’n gobeithio fydda i, ryw ddydd, yn cael mynd yn ôl ar y llethrau.”
Rhoddodd y cyfnod clo, a gweithio rhan amser bryd hynny, gyfle i Non adeiladu tŷ ar dir y fferm yn Nhryfil, ar ôl deng mlynedd o fyw mewn carafán efo’r plant.
“Roedd [byw yn y garafán] yn anodd iawn. Mynd drwy ysgariad, diwrnod Nadolig a dŵr yn dod mewn drwy’r to ar ben anrhegion y plant… mae rhywun yn adlewyrchu ar ei fywyd go-iawn.
“I fi, roedd y cyfnod clo yn gyfnod lle’r oeddwn i’n gweithio rhan amser ac fe wnes i a dad allu codi tŷ.
“Doedd gen i ddim amser cynt, ond fe wnaeth y cyfnod clo roi’r amser i dad a fi ac fe wnaethon ni lwyddo i fynd mewn i’r tŷ’r flwyddyn honno.
“Mae hwnna’n eithaf braf, er fysa’r plant yn licio mynd yn ôl i fyw yn y garafán – maen nhw’n dweud bod y tŷ rhy ddiflas, yn cwyno bod hi rhy boeth a’n bod ni gyd yn nes at ein gilydd cynt!”