Portread o Sion Emlyn Parry

Canu gwlad a roc ydy pethau drymiwr sy’n diwtor drama ac yn medru gwneud gitârs trydan.

Ddechrau’r mis wnaeth Sion Emlyn Parry gyrraedd ffeinal Cân i Gymru yn Abertawe.

Y cerddor 26 oed wnaeth gyfansoddi ‘Cymru yn y Cymylau’ gyda’i gydweithwraig Lowri Jones, ac mae hefyd yn aelod o fand roc trwm Ffatri Jam.