“Bysech chi ddim yn coelio faint o amser sydd wedi cael ei dreulio ar wneud ‘Seren Wib’ a chael o i’r safon roedden ni eisiau…”

 

Fel yr oedd yr haf eleni yn tynnu tua’r terfyn, wnaeth Diffiniad – y band pop poblogaidd fu ar eu hanterth yn y 1990au – sengl fach newydd.

‘Seren Wib’ yw’r diweddaraf o lond llaw o senglau newydd gan y band ers iddyn nhw ailffurfio ar gyfer perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2018.