Aeth bron i flwyddyn heibio ers i griw project unigryw o’r enw ‘GwyrddNi’ sefydlu Cynulliadau Hinsawdd yng Ngwynedd, a hynny er mwyn tynnu pobol ynghyd i geisio darganfod ffyrdd ymarferol o daclo cynhesu byd eang.

Yma mae Swyddog Cyfathrebu Cymunedol GwyrddNi, Casia Wiliam, yn sôn am y syniadau sydd ar y gweill a’r gwaith addysgu am yr amgylchfyd sydd wedi digwydd yn yr ysgolion lleol…