Mae’r ddeuawd roc indi-seicadelic am fod yn rhyddhau eu halbwm gyntaf a chwarae llwyth o gigs tros yr Haf… 

Mae yna rywbeth yn y dŵr yn Ysgol Brynrefail ym mhentref Llanrug yng Ngwynedd. O’r ysgol ger Caernarfon daeth mawrion fel Alffa, Derwyddon Dr Gonzo, Brigyn, Vanta, Plu, Gwilym Bowen Rhys a hanner Y Bandana. A’r diweddaraf o’r ffatri bop yn Eryri yw’r ddeuawd sy’n plethu roc indi a seicedelig, Dienw.