Adfywio ieithoedd lleiafrifol ydy diddordeb mawr Gwyddel sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei waith yn hybu’r Gymraeg yn Aberystwyth, ac sy’n hoffi cerddoriaeth pync aflafar.

Mae Dr Ben Ó Ceallaigh yn siarad Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Manaweg a Chymraeg yn rhugl, a newydd gyhoeddi llyfr yn edrych ar effaith cyfalafiaeth ar ieithoedd lleiafrifol.