Mae yna bethau od iawn yn digwydd ym Mhlaid Cymru’r dyddiau yma, mae’n rhaid dweud.

Y newyddion mawr ym Mae Caerdydd ddechrau’r wythnos hon oedd bod Rhys ab Owen, Aelod o’r Senedd Canol De Cymru, wedi’i wahardd gan Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd o ganlyniad i achos difrifol honedig o dorri’r Côd Gweinidogol.

Dim ond newydd ddechrau tawelu mae’r sŵn yn dilyn ffiasgo Jonathan Edwards!