Mae tîm merched Cymru wedi creu hanes ar y cae fis yma, ac yn llygadu eu lle yng Nghwpan y Byd…

Mae’r gyflwynwraig chwaraeon Catrin Heledd yn teimlo bod llwyddiant tîm pêl-droed merched Cymru wrth gyrraedd gemau ail gyfle Cwpan y Byd yn “benllanw” dwy flynedd o waith caled. Ond mae’n cyfaddef na chafwyd y “perfformiad gorau” wrth iddyn nhw orffen yn gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Slofenia yng Nghaerdydd ar nos Fawrth cyntaf mis Medi.