Ers tua wyth mlynedd mae Cadeirydd Cymdeithas Gymraeg Iwerddon yn cynnig gwersi Cymraeg i drigolion yr Ynys Werdd.

Peiriannydd trydanol i gwmni rheilffyrdd Iwerddon ydy Richard Morgan wrth ei waith, ac mae’n un o arweinwyr mudiad y Ddraig Werdd.

Cafodd y mudiad ei sefydlu tua ugain mlynedd yn ôl, gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth am Gymru a materion Cymreig yng Ngweriniaeth Iwerddon, a chreu rhwydwaith gymdeithasol i Gymry sy’n byw dros y lli.