Fyddai hi ddim syndod gweld un o gerddwyr brwd Eryri ar ben mynydd hyd at bedair gwaith yr wythnos dros fisoedd yr haf.

Mae’r hyfforddwr awyr agored Gwydion Tomos yn rhedeg cwmni sy’n tywys eraill i gopaon y gogledd, ac yn meddu ar dros 25 mlynedd o brofiad yn y maes.

Yn ogystal â bod yn dywysydd mynydd cymwysedig, mae Gwydion, sy’n byw yn Rhiwlas yn Nyffryn Ogwen, yn gallu hyfforddi pobol i ddringo creigiau, cyfeiriannu, beicio, padlfyrddio, a chanŵio.