Ers iddo ddysgu Cymraeg, mae cerddor o’r Almaen yn perfformio mewn nosweithiau llawen ar-lein i ddysgwyr.

Mae Hendrik Robisch, sy’n byw yn Essen yng ngorllewin y wlad, yn canu caneuon gwerin y band Bwncath a’r gwerin-feistr Gwilym Bowen Rhys.

Criw dysgu Cymraeg SaySomethingInWelsh ddechreuodd gynnal y Noson Lawen i ddysgwyr, a hynny’n ystod y cyfnod clo cyntaf, ond bellach Hendrik sy’n trefnu’r nosweithiau rhithiol.