Wythnos newydd, golygfa gyfarwydd.

Ie’n wir, roedd Mark ‘Drakey’ Drakeford nôl gerbron ei bodiwm, wrth i don Omicron ddistewi… ac efallai’n wir fod y lan mewn golwg.

Neges gyfarwydd oedd ganddo am yr angen am bwyll gyda Chymru’n troedio allan o gyfyngiadau covid bob yn dipyn, yn “raddol ac yn ofalus”.

Mae Lloegr a’r Alban eisoes wedi llacio eu cyfyngiadau, ond bydd yn rhaid i ni’r Cymry aros ychydig ddyddiau cyn ein bod yn cael mentro nôl i glybiau nos neu fwynhau peint wrth ochr y bar.