Mae Ursula Martin yn cael modd i fyw yn antura, ac yn ddiweddar mi ddychwelodd i Gymru ar ôl cerdded am bum mil o filltiroedd trwy Ewrop.

Yn enedigol o Abertawe, mae’r Gymraes 41 oed wedi bod ar lu o deithiau eithafol, a dechrau mis Mehefin mi orffennodd daith dair blynedd o hyd a ddechreuodd yn Kiev.

Codi ymwybyddiaeth am ganser yr ofari – cyflwr y bu iddi hi ddatblygu ei hun – oedd pwrpas y daith.