Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Byd Gwynn: Cofiant T Gwynn Jones, 1871-1949. Dyma un arall o gofiannau swmpus a chyfoethog y Prifardd, Dr Alan Llwyd. Dw i o fewn cyrraedd diwedd y gwaith ardderchog hwn ac yn dal i ryfeddu nid yn unig at ymchwil trylwyr a chyfansawdd yr awdur, ond hefyd at y mân gofiannau i eraill a gynhwysir ganddo i gyfoethogi’r darlun cyfan o brif wrthrych y gwaith ysgolheigaidd hwn.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd