Mae’r frwydr tros sedd Gorllewin Caerdydd yn y Senedd yn argoeli i fod yn llawer mwy bywiog na’r disgwyl.

Bellach mae ‘rhestrau ymgeiswyr’ wedi cael eu cyhoeddi gan gynghorau ledled y wlad, ac mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu pwy sydd yn y ras am sedd y Prif Weinidog.

Ar hyn o bryd mae Gorllewin Caerdydd yn cael ei chynrychioli gan Mark Drakeford, arweinydd Llafur Cymru, wrth gwrs yn amddiffyn y sedd yn yr etholiad ar Fai 6.