Dyma gerddi amserol gan y bardd Menna Elfyn. Yn y cyntaf mae yn sôn am sut y mae’r byd wedi newid i blant bach oherwydd y pla…
H’m – Hymian
(cerdd yn ymateb i ddosbarth yn hymian ‘Pen-Blwydd Hapus’ i blentyn ar fore ei ben-blwydd, yn lle canu, oherwydd cyfyngiadau coronafeirws)
Ac o’r h’mmm, ddaw o’r ddwy wefus dynn
melys yw’r h’m sy’n hymian
fel emyn y Swmeriaid i’r Greadigaeth
unwaith, cyn oed Crist.
Heddiw, caiff plentyn glywed yr ‘h’m’