Mae eisiau “lledaenu deiet” darllen plant, yn ôl un awdur sy’n newydd ar y sîn…
Ym mis Chwefror 2019, buodd wyth darpar awdur ac wyth darlunydd ar gwrs wythnos yng nghanolfan sgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, i geisio dysgu sut i sgrifennu llyfrau llun-a-gair i blant bach.
Cyngor Llyfrau Cymru a drefnodd y cwrs er mwyn meithrin awduron Cymraeg newydd, mewn ymateb i adroddiad a oedd wedi ei gomisiynu gan Dr Siwan Rosser, arbenigwr ar lenyddiaeth plant, yn galw am ragor o lyfrau gwreiddiol Cymraeg i’r oedran iau, gan bod y maes yn gwegian dan bwysau cyfieithiadau. Nawr, mae’r ymdrechion yn dwyn ffrwyth gyda sawl awdur a darlunydd a fuodd ar y cwrs yn cyhoeddi llyfrau.
Yn eu plith mae awdur newydd, Carys Glyn o’r Fenni, a Gwennan Evans, awdur a bardd o Gaerdydd. Ar y cwrs y cafodd Carys Glyn y syniad am ei llyfr plant cyntaf erioed, Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll (Y Lolfa). Mae’r stori yn ail-ddychmygu anifeiliaid hynaf y byd, o chwedl Culhwch ac Olwen, yn griw fel yr A-Team sy’n helpu creaduriaid eraill – y tro yma, gwenyn bach.
Ar y cwrs, digwyddodd Carys Glyn sylwi ar Ruth Jên yn sgetsio llun o’r anifeiliaid hynod – mae’r arlunydd wedi bod yn gwneud argraffiadau a chardiau ar yr anifeiliaid hynaf ers tro byd.
“Yn llythrennol wrth adael y stafell ar y bore olaf, ro’n i’n gweld ei bod hi wedi sgetsio rhywbeth yng nghornel ei llyfr ac roeddwn i wir eisie gweithio gyda hi,” meddai Carys Glyn, sy’n athrawes yn Ysgol Gymraeg y Fenni. “Weles i’r cymeriadau yma, a rhoddodd hi bach o gefndir i fi. Roedd ganddi hi syniad am y carw yma, ac roedd y cymeriadau yn dod yn amlwg i fi wrth edrych ar eu hwynebau nhw.”
Cafodd y syniad o sôn am dranc y gwenyn am fod pobol ardal y Fenni yn ymwybodol o’r angen i warchod eu cynefinoedd. Ar ei ffordd gartref o’r cwrs, sylwodd ar yr arwyddion gwenyn ar gylchfannau a oedd wedi cael eu plannu gyda blodau gwyllt er mwyn ennyn a helpu’r gwenyn. “Dw i ddim wedi gweld yr arwyddion yma yn unrhyw le arall,” meddai. “Mae Trefynwy, sy’ ddim yn bell ohonon ni, yn ‘Dref y Gwenyn’. Mae yn dipyn o beth yn Sir Fynwy.”
Mae’r cymeriadau yn y llyfr – G.Hw, Carwww, Eryr, Chwim a Mal – yn gweithio gyda’i gilydd i achub y dydd ac i achub y blaned, ond hefyd mae ganddyn nhw i gyd eu nodweddion gwahanol.
“Ro’n i’n gwybod, gyda phlant, mae’n ymwneud gyda’r cymeriadau,” meddai. “Os ydyn nhw’n gallu uniaethu gyda’r cymeriadau, mi allwn i drosglwyddo’r neges yn llawer haws. Do’n i ddim eisie iddo fe fod yn llyfr lle rydw i’n pregethu – eisie iddo fe fod yn llyfr sy’n hwyl a’u bod nhw’n joio.
“Mae Carwww yn nerfus iawn am bopeth. Mae’n wych i drafod hynny – mae plant yn nerfus, ac mae hynna’n iawn. Mae un arall yn ddewr, ond a ydi e’n cuddio rhywbeth? Dw i’n dwlu ar y syniad y galla’ i ddatblygu’r cymeriadau yma.
“Dw i’n hoffi’r ffaith bod llyfrau yn helpu plant i ddelio efo emosiynau a deall negeseuon y mae’n amhosib eu cyfleu iddyn nhw mewn unrhyw ffordd arall. Mae e mor bwerus. Maen nhw mor ddidwyll – maen nhw’n credu yn y stori. Mae e’n ffordd wych o gysylltu.”
Mae hi’n falch bod y cwrs ac ymgyrch y Cyngor Llyfrau yn dwyn ffrwyth, yn enwedig o ran cael llyfrau gwreiddiol yn y Gymraeg.
“Fy mhroblem i yw bod eisie lledaenu eu deiet o lyfrau,” meddai. “Dyna fy mhryder i. Bydd plant yn yr ysgol yn gallu enwi tri neu bedwar awdur, ac wedi eu darllen nhw drosodd a throsodd – y Jacqueline Wilsons a’r David Walliamses. Mae lle iddyn nhw, ond beth roeddwn i yn gyffrous am fy llyfr i ac am y cwrs oedd cael lleisiau newydd Cymreig o Gymru, yn hytrach na chyfieithiadau oedd yn dod o rywle arall.”
Diolch i’r cwrs, mae pethau yn mynd “yn y ffordd gywir,” yn ôl Carys Glyn, ond mae eisie llyfrau Cymraeg yn ymdrin â phob math o bynciau ar gyfer plant.
“Yn sicr mae angen mwy o waith,” meddai. “Mae yna gymaint mwy o sgôp. Dw i’n gweithio gyda phlant bob dydd ac yn meddwl – ‘gosh, pe bai ond gen i lyfr i drafod hynna gyda phlentyn, ond yn Gymraeg’.
“Maen nhw’n poeni ar hyn o bryd am wahanol bethau. Mae plant yn bobol bach cymhleth. Mae lot o blant yn delio efo lot o bethau, a dy’n ni ddim yn gweld hynna. Mae straeon yn helpu plant i ddelio gyda phethau falle dy’n nhw ddim yn gallu eu trafod mewn sgwrs ffurfiol.”
Rhywbeth arall sy’n ei gwneud hi’n falch iawn o gael y llyfr clawr caled hardd yn ei llaw – y mae’r pennaeth wedi rhoi copi i bob un dosbarth yn ei hysgol – yw ei bod hi’n llais o’r de-ddwyrain. “Mae lot o fy mhlant i wedi cyffroi am y llyfr,” meddai. “Roedd hwnna’n bwysig iawn i fi, bod rhywun o’n hardal ni yn cyhoeddi llyfr. Dw i’n llwyddo i sôn am Gaerffili, sy’n rhywbeth!”
Dilysu profiad plant cefn gwlad
Roedd yr awdur Gwennan Evans, a gafodd ei magu ar fferm yn Nyffryn Cothi, eisie “dilysu profiadau plant cefn gwlad” yn ei llyfr cyntaf i blant bach, Gwyliau Gwirion Fferm Cwm Cawdel.
Yn y llyfr, mae’r ferch fferm, Ffion, yn mynd ar wyliau gyda’i gyr o wartheg godro. Maen nhw’n mynd i Aberystwyth ar y bws, yn dal y trên lan Consti, ac yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol ar riw Penglais.
Dyma fydd y gyntaf mewn cyfres newydd i blant pedair i wyth oed gan Gwennan Evans, gyda gwaith arlunio trawiadol gan Lleucu Gwenllian, ac mae’r awdur yn mynd â Ffion a’r gwartheg ar eu gwyliau i lefydd eraill yng Nghymru.
“Mae wedi dod yn fwy perthnasol rywsut ers y pandemig,” meddai Gwennan Evans. “Mae gwyliau staycation yn fwy poblogaidd. Rydan ni’n mynd i orfod dysgu hamddena yn ein milltir sgwâr yn fwy, ac mae hynna’n eitha’ perthnasol.”
Er nad oes yna foeswers neu neges amlwg yn y llyfr, a sgrifennodd bron yn gyfan gwbl ar y cwrs wythnos yn Nhŷ Newydd, mae’r stori fach hwyliog yn amlwg yn dathlu doniau merched.
“Dw i’n benodol wedi dewis merch i fod yn brif gymeriad,” meddai, “a drwy mai gwartheg godro ydi’r cymeriadau i gyd, merched ydi’r cymeriadau i gyd.
“Dw i eisie dilysu profiadau plant cefn gwlad. Mae ffermwyr yn gweithio’n galed, ac mae’r gwartheg yn cael hufen iâ ar y diwedd i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled ac am wneud llaeth i ni. Mae yna dipyn bach o addysgu. Mae pethau cefn gwlad yn anghofiedig yn reit aml.”
Cafodd Gwennan Evans ei magu ar fferm rhwng Pumsaint a Ffarmers yn Nyffryn Cothi, ac fe deimlai pan oedd hi’n blentyn bod ei phrofiadau hi yn wahanol i’r hyn a oedd yn cael ei gyfleu ar y teledu ac mewn llyfrau. Felly roedd hi eisiau cyfleu’r ochr wledig honno mewn llyfr lliwgar i blant bach.
“Mae o’n rhywbeth y medrith plant y wlad uniaethu efo fo,” meddai’r awdur, a gyhoeddodd nofel i oedolion, Bore Da, yn 2012 a nofel ysgafn i blant, Iârgyfwng, yn 2017. “Doedden ni byth yn mynd ar ein gwyliau. Wnaiff o ddim drwg i blant y dre chwaith i ddeall sut mae bywyd yn wahanol.”
Cynnyrch y cwrs
Mae’r awduron a’r darlunwyr eraill a oedd wedi bod ar y cwrs yng ngwanwyn 2019 wedi cyhoeddi neu wrthi’n gweithio ar lyfrau newydd. Yn eu plith mae Llio Maddocks, a gyhoeddodd ei llyfr Y Môr-leidr a Fi gyda’r arlunydd Aled Roberts cyn y Nadolig y llynedd; Sioned Wyn Roberts, a gyhoeddodd y gyntaf yn y gyfres Ffwlbart Ffred gyda’r arlunydd Bethan Mai ym mis Ebrill, ac sy’n gweithio ar yr ail; a Rhian Cadwaladr, sydd ar fin cyhoeddi’r llyfr Ynyr yr Ysbryd gyda’i merch, yr arlunydd Leri Tecwyn. Mae’r arlunydd Luned Aaron ar fin cyhoeddi ei llyfr, Mae’r Cyfan i Ti gyda gwasg Atebol; a’r artist Leonie Servini wedi darlunio’r llyfr newydd gan wasg Rily, Amser Canu, Blant!