Mae rhywun yn S4C yn llawn syniadau da.

Dyma i chi sianel deledu sy’n llawn sylweddoli’r angen i gynnig arlwy cyfoes, cyffrous a diddorol. Sianel sy’n prysur chwilio am raglenni a fformatau difyr – tra’n chwilio am gynulleidfa newydd ar hyd a lled ein gwlad fach amherffaith.

Beth sydd o’i le, er enghraifft, ar ddarparu rhaglen pymtheng munud o hyd, er mwyn ’dangos profiadau pobl sy’n mynd trwy ddigwyddiadau arwyddocaol dros gyfnod o 24 Awr’?

Dim oll.