Cwis yr Wythnos

Cwestiwn 1

Ym mha genedl y daeth pob dinesydd yn swyddogol flwyddyn neu ddwy yn iau'r wythnos hon?


Cwestiwn 2

Mae hiliaeth, rhywiaeth, elitiaeth a dosbarthiaeth yn gyffredin ar bob lefel ym mha chwaraeon Cymru, yn ôl adroddiad annibynnol newydd?


Cwestiwn 3

Pa wlad G7 oedd yr unig un i anfon dyn i uwchgynhadledd y grŵp ar gydraddoldeb rhywiol a grymuso menywod?


Cwestiwn 4
Senedd San Steffan ac afon Tafwys - wedi eu goleuo fin nos

Pa wleidydd wnaeth ymddiheuro'r wythnos hon am fynychu "diodydd pen-blwydd" yn San Steffan tra bod cyfyngiadau Covid mewn lle?


Cwestiwn 5

Pa fand mae'r band o'r Cymoedd, CHROMA, wedi eu dewis i'w gefnogi ar daith Brydeinig y flwyddyn nesaf?


Cwestiwn 6
Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Y Prifardd a'r Prif Lenor, Mererid Hopwood, sydd wedi'i hethol yn Archdderwydd nesaf Cymru. Ond daeth Mererid y ferch gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod ym mha flwyddyn?