Cwis yr Wythnos

Cwestiwn 1

Cafodd Liz Truss ei derbyn fel Prif Weinidog newydd y DU ddydd Mawrth. Ond aelod o ba blaid yr oedd hi yn y brifysgol?


Cwestiwn 2

Penwythnos diwethaf, lladdwyd o leiaf 10 o bobl mewn sbri trywanu mewn cymuned frodorol a gerllaw ym mha dalaith yng Nghanada?


Cwestiwn 3

Mae dinas Haarlem yn yr Iseldiroedd ar fin gwahardd y mwyafrif o hysbysebion ar gyfer pa gynnyrch o fannau cyhoeddus?


Cwestiwn 4

Yn dilyn marwolaeth Brenhines Elizabeth II, pa ddigwyddiad mae Cadw wedi'i ganslo yng Nghastell Harlech ddydd Sadwrn?


Cwestiwn 5

“Dw i’n meddwl bod angen trafodaeth yng Nghymru ynglŷn â be’ ddylai ddigwydd i’r teitl Tywysog Cymru a beth ydy defnydd y teitl." Pwy ddywedodd hyn yr wythnos hon?


Cwestiwn 6

Fe wnaeth gweithwyr yng nghanolfan alwadau’r gwasanaethau brys yng Nghymru ateb mwy na _._m o alwadau y llynedd.