Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydach chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1
S4C

Cafodd y rhaglen Heno ar S4C ei hail-lansio ar ddechrau’r wythnos gyda chyflwynwyr a set newydd. Mae’r soffa felen eiconig wedi cael ei disodli gan soffa newydd. Be ydy lliw’r soffa newydd?


Cwestiwn 2

Mae Angharad Mair wedi bod yn aelod o dîm Heno ers faint o flynyddoedd?


Cwestiwn 3
Facebook Sadwrn Barlys

Mae Sadwrn Barlys yn ddigwyddiad unigryw sy’n cael ei gynnal yn Aberteifi ar ddydd Sadwrn ola’ mis Ebrill. Beth yw’r prif atyniad?


Cwestiwn 4
CC0

Mae ymgyrch wedi dechrau i ailagor cartref pa awdures ger Caernarfon?


Cwestiwn 5
Baner yr Alban

Daeth cytundeb rhannu grym yr SNP yn yr Alban i ben yr wythnos hon - gyda pha blaid?


Cwestiwn 6

Roedd Pwyllgor Chwaraeon y Senedd wedi galw’r wythnos hon am "ddiogelu darlledu rhad ac am ddim" pa chwaraeon?