Cwis mawr y penwythnos

Faint ydach chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

Cwestiwn 1

Mae’r Fyddin Brydeinig wedi codi gwaharddiad 100 mlynedd yr wythnos hon oedd yn atal milwyr rhag cael... beth?


Cwestiwn 2

Pa grŵp o weithwyr iechyd proffesiynol oedd wedi dadlau'r wythnos hon bod bra yn anghenraid sylfaenol, ac na ddylai gael ei drethu?


Cwestiwn 3

Mae Ken Owens, bachwr y Sgarlets, Cymru a'r Llewod, wedi rhoi'r ffidil yn y to yr wythnos hon. Ond beth yw enw llawn Y Sheriff?


Cwestiwn 4

Pa anifeiliaid sydd wedi ysgogi dynes o Landudno i ddechrau ymgyrch i sicrhau mwy o arwyddion yn y dref yn rhybuddio y gallai’r anifeiliaid fod yn crwydro ar y ffyrdd?


Cwestiwn 5

Mae papur lleol ardal Penllyn, Y Bala a ddaeth i ben, wedi dychwelyd yn ddiweddar. Beth ydy enw’r papur?


Cwestiwn 6

Pwy gafodd ei phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig newydd Cwmni Theatr Arad Goch yr wythnos hon, gan olynu Jeremy Turner, sydd wedi ymddeol?