Cwis mawr y penwythnos

Faint ydach chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

Cwestiwn 1

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y rhai oedd wedi dechrau dysgu Cymraeg yn 2022-23, yn ôl ystadegau diweddara’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Faint o gynnydd sydd wedi bod?


Cwestiwn 2
UCMC

Pwy sydd wedi’i ethol yn Llywydd nesaf Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru?


Cwestiwn 3

Yn yr Unol Dalethiau, Richard "Rick" Slayman, 62, oedd y claf cyntaf i dderbyn trawsblaniad aren wedi’i addasu’n enetig o ba anifail?


Cwestiwn 4

Pa wlad gafodd ei tharo gan ddaeargryn ddydd Mercher oedd yn mesur 7.4 ar y raddfa Richter – y cyntaf i daro’r wlad ers 25 mlynedd?


Cwestiwn 5

Pa stadiwm sydd wedi cyhoeddi y bydd ei hatyniad newydd ar y to yn agor ddiwedd y mis?


Cwestiwn 6

Pa ŵyl gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei chynnal ym mis Mai, sy’n dathlu 10 mlynedd ers ei sefydlu?