Cwis mawr y penwythnos

Faint ydach chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

Cwestiwn 1

Roedd tîm pêl-droed Gwlad Pwyl wedi curo Cymru i gyrraedd Ewro 2024 nos Fawrth (Mawrth 26). Beth oedd y sgôr ar ôl ciciau o'r smotyn?


Cwestiwn 2

Gyda’r disgwyl y bydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal cyn diwedd y flwyddyn, pwy yw’r tair ar golwg360 sy’n gobeithio cynrychioli Plaid Cymru yn San Steffan?


Cwestiwn 3

Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed eleni. Pwy oedd y llywydd cyntaf yn 1974?


Cwestiwn 4

Mae un o gyflwynwyr amlyca'r byd darlledu Cymraeg wedi bod yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed. Pwy yw hwnnw?


Cwestiwn 5
LDRS

Pa gyngor oedd wedi mynd yn groes i Safonau’r Gymraeg, am fethu darparu gwybodaeth ddwyieithog ar ddau arwydd stryd?