Cwis mawr y penwythnos

Faint ydach chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

Cwestiwn 1
Llywodraeth Cymru

Wrth roi teyrnged i Mark Drakeford ar X (Twitter gynt) yr wythnos, hon roedd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wedi dyfynnu o ba ffilm?


Cwestiwn 2

Cafodd Vaughan Gething ei ethol yn Brif Weinidog Cymru yr wythnos hon. Faint o’r bleidlais enillodd e yn erbyn ei wrthwynebydd Jeremy Miles?


Cwestiwn 3
Matthew Horwood

Beth ydy enw llawn Vaughan Gething, Prif Weinidog newydd Cymru?


Cwestiwn 4

Cafodd Carmen Smith o Blaid Cymru ei chyflwyno i Dŷ’r Arglwyddi fel y Farwnes Smith o Lanfaes yr wythnos hon. Hi fydd yr Arglwyddes am Oes ieuengaf erioed. Faint oed ydy hi?


Cwestiwn 5
Iolo Penri

Mae 50,000 o wenyn wedi cael eu gwarchod wrth wneud gwaith ar do un o adeiladau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ydych chi’n cofio pa adeilad?


Cwestiwn 6

Mae trigolion pentref yng Ngwynedd yn gwrthwynebu troi hen dafarn yn llety gwyliau. Pa dafarn sydd dan sylw?