Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydych chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio?

 

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1

Pa ganwr oedd wedi cymharu buddugoliaeth Donald Trump yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau gyda’r frwydr yn erbyn ail gartrefi Cymru?


Cwestiwn 2

Beth ydy enw stad enwog Donald Trump yn West Palm Beach yn Fflorida?


Cwestiwn 3

Donald Trump fydd yr ail Arlywydd yn hanes yr Unol Daleithiau i wasanaethu am ddau dymor heb fod yn olynol. Pwy oedd y cyntaf?


Cwestiwn 4

Pa Aelod Seneddol Ceidwadol yn San Steffan wnaeth roi gwers Gymraeg i Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens drwy ddweud: "... Ynys Môn – neu Anglesey iddi hi."


Cwestiwn 5

Roedd Theatr y Palas yn Abertawe wedi ailagor ei drysau'r wythnos hon ar ôl cael ei hadfer ar gost o £10m. Pryd cafodd y theatr ei hadeiladu?


Cwestiwn 6
CC0

Pa lyfr Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr yr Entente Littéraire Prize (Prix de l’Entente Littéraire), gwobr newydd sbon ar y cyd rhwng Ffrainc a Phrydain?