Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydych chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1
(Photo by Jeff Spicer/BAFTA/Getty Images for BAFTA)

Mark Lewis Jones enillodd wobr Siân Phillips yng ngwobrau BAFTA Cymru nos Sul (Hydref 20) am ei gyfraniad arbennig i fyd ffilm a theledu. O le mae o’n dod?


Cwestiwn 2

Pa actores enillodd wobr BAFTA Cymru am yr Actores Orau am ei pherfformiad yn y gyfres Bariau?


Cwestiwn 3

Roedd Sara Davies, enillydd Cân i Gymru eleni, wedi perfformio’i sengl newydd yn fyw am y tro cyntaf yng Ngwobrau BAFTA Cymru nos Sul. Beth yw enw’r gân?


Cwestiwn 4
Llun gan Cwmni Theatr Cymru

Mae’r cwpl priod Maureen Rhys a John Ogwen wedi dathlu eu pen-blwyddi’n 80 oed eleni. Beth yw enw’r ddrama gan Gwenlyn Parry mae’r ddau yn cael eu cysylltu’n bennaf â hi?


Cwestiwn 5

Roedd Senedd Cymru wedi pleidleisio yn erbyn yr egwyddor o roi cymorth i farw yr wythnos hon, yn dilyn pleidlais hanesyddol. Pa Aelod Llafur oedd wedi cyflwyno’r cynnig?


Cwestiwn 6

Pa ysgol yn y gogledd oedd wedi cau ei drysau ddydd Iau (Hydref 24) oherwydd problem gyda llygod mawr?