Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydych chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

 

 

 

Cwestiwn 1

Pwy yw awdur y nofel 'Y Lliwiau i Gyd' am fywyd Betty Campbell, prifathrawes ddu gyntaf Cymru?


Cwestiwn 2

Pwy yw cadeirydd newydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)?


Cwestiwn 3
Llun: Kirsty O'Connor/ No 10 Downing Street

Roedd Syr Keir Starmer dan y lach yr wythnos hon am ddymuno’n dda i bwy?


Cwestiwn 4

Roedd llun gan yr arlunydd o Sir Benfro, Gwen John, wedi'i werthu am ddwbl ei amcan bris yr wythnos hon. Beth oedd enw’r llun?


Cwestiwn 5
Gillian Elisa/BBC

Mae 'Pobol y Cwm' wedi bod yn dathlu hanner can mlynedd ers i’r bennod gyntaf gael ei darlledu yn 1974. Roedd yr actores Gillian Elisa yn un o’r cast cyntaf i ymddangos yn y gyfres sebon. Beth oedd enw ei chymeriad?


Cwestiwn 6

Mae Dewi Rhys wedi camu 'nôl ar set 'Pobol y Cwm' yr wythnos hon. Beth oedd enw ei gymeriad oedd wedi ‘marw’ 25 mlynedd yn ôl?