Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydych chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

gan Elin Wyn Owen

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

Cwestiwn 1
Hawl i Fyw Adra

Yn sgil rheolau newydd mewn un sir, bellach mae angen caniatâd cynllunio i droi eiddo’n llety gwyliau neu’n ail gartref. Ym mha sir mae'r newid hwn wedi dod i rym?


Cwestiwn 2

Cafodd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei chyhoeddi'r wythnos hon. Pryd gafodd y wobr ei sefydlu?


Cwestiwn 3
Llywodraeth Cymru

Cafodd y cynigion cyntaf ar gyfer etholaethau newydd Senedd Cymru eu cyhoeddi'r wythnos hon. Faint o etholaethau fyddai gan Gymru erbyn etholiad 2026 ar sail hyn?


Cwestiwn 4

Yn ôl ymchwil newydd, mae pobol ifanc dan 30 oed yn hapus i dalu mwy i siopa yn Gymraeg. Ond pa ganran o bobol 20-29 oed sy'n fodlon talu pris uwch am gynnyrch neu wasanaeth Cymraeg?


Cwestiwn 5
BAFTA CymruBAFTA Cymru

Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2024. Pa raglen neu ffilm sydd wedi derbyn y nifer fwyaf o enwebiadau?


Cwestiwn 6
Llywodraeth Cymru

O'r wythnos hon, fe fydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru’n gallu cael prydau ysgol am ddim. Faint o brydau sydd wedi'u darparu ers lansio'r cynllun yn 2021?