Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydych chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1

Roedd un o gerddorion mwya’ poblogaidd Cymru, Bryn Fôn, yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 yr wythnos hon. Beth oedd enw’r sengl gyntaf iddo ei rhyddhau gyda’r band Crysbas?


Cwestiwn 2

Fe enillodd Bryn Fôn y gystadleuaeth Cân i Gymru yn 1997 gyda pha gân?


Cwestiwn 3

Fe gyhoeddodd Oasis eu bod yn ail-ffurfio'r flwyddyn nesaf gyda thaith o gwmpas y Deyrnas Unedig a fydd yn dechrau yng Nghaerdydd. Pryd ddaeth y band i ben?


Cwestiwn 4

Beth oedd enw albwm gyntaf Oasis yn 1994?


Cwestiwn 5

Faint o athletwyr o Gymru sy’n cymryd rhan yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis?


Cwestiwn 6

Mae gwenyn mêl duon Cymreig wedi dychwelyd i ba dŷ sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ôl cael eu symud tra bod gwaith yn cael ei wneud ar do’r adeilad?