Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydych chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

 

Cwestiwn 1

Pa Fenter Iaith gyhoeddodd yr wythnos hon eu bod yn torri tir newydd wrth ymateb i her argyfwng tai cadarnleoedd y Gymraeg?


Cwestiwn 2

Mae Llinos Medi, Aelod Seneddol Plaid Cymru, wedi galw o’r newydd am ddatganoli Ystad y Goron gan fod elw o ynni gwynt yng Nghymru am gael ei wario ar beth?


Cwestiwn 3

Roedd artist wedi cyflwyno portread o’i waith o Dai Jones Llanilar i Bwyllgor Sioe'r Cardi 2024. Pwy yw’r artist?


Cwestiwn 4

Bu farw Ray Reardon, y chwaraewr snwcer o Gymru, yn 91 oed yn ddiweddar. Sawl gwaith fu’n bencampwr y byd?


Cwestiwn 5

Roedd Joe Biden wedi tynnu allan o’r ras arlywyddol yr wythnos hon. Pwy yw'r ymgeisydd yn ei le?