Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydych chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

 

Cwestiwn 1

Roedd y 32 Aelod Seneddol gafodd eu hethol yn dilyn yr etholiad cyffredinol wythnos ddiwethaf wedi teithio o Gymru i San Steffan ddechrau’r wythnos. O’r 32 aelod, faint ohonyn nhw oedd yn wynebau newydd yn San Steffan?  


Cwestiwn 2
Stuart Ladd

Roedd Ann Davies, Aelod Seneddol newydd Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin wedi teithio i San Steffan ar drên wedi’i enwi ar ôl AS benywaidd cyntaf yr ardal. Pwy oedd hi?


Cwestiwn 3

Bu’r Brenin Charles a’r Frenhines Camilla yn ymweld â’r Senedd ddydd Iau (11 Gorffennaf) er mwyn nodi faint o flynyddoedd ers sefydlu’r Senedd?


Cwestiwn 4

Fe gyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion bod eu cynllun i geisio annog pobl i gadw enwau Cymraeg ar dai yng Ngheredigion yn helpu. Sawl cais wnaethon nhw dderbyn i newid enw cartref o'r Gymraeg i'r Saesneg eleni?


Cwestiwn 5

Pwy gafodd eu dewis gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru i fod yn rheolwr newydd tîm pêl-droed dynion Cymru?