Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydach chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

 

Cwestiwn 1

Roedd hi'n 80 mlynedd ers D-Day ddydd Iau (Mehefin 6) - un o ddyddiau mwyaf arwyddocaol yr Ail Ryfel Byd yn 1944. Fe laniodd miloedd o filwyr ar draethau lle yn Ffrainc?


Cwestiwn 2

Fe gyhoeddodd y gantores Georgia Ruth na fydd hi’n perfformio yng Ngŵyl Latitude yn Suffolk gan eu bod nhw’n cael eu noddi gan fanc sy’n buddsoddi mewn cwmnïau sy’n rhoi arfau i Israel. Pa fanc oedd dan sylw?


Cwestiwn 3

Roedd y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yr wythnos hon am “gefnu” ar ba addewid?


Cwestiwn 4

Cymru yw’r ail wlad orau yn y byd am wneud beth, yn ôl astudiaeth newydd gafodd ei chyhoeddi yr wythnos hon


Cwestiwn 5

Daeth y sioe deledu Showtime! gan Afanti i'r brig yn y categori Adloniant: Sgrin yng Ngwobrau’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd. Pwy yw'r canwr oedd yn cyflwyno'r sioe?


Cwestiwn 6
Arwydd Senedd CymruRay Morgan / Shutterstock.com

Roedd dau Aelod Llafur o’r Senedd wedi cadw draw o’r Bae ddydd Mercher ar ddiwrnod y bleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn Vaughan Gething, oherwydd salwch. Pwy oedden nhw?