Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydach chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi’i chynnal ym Meifod yr wythnos hon. Faint ydach chi’n ei gofio am yr ŵyl a’r straeon newyddion yn ystod yr wythnos aeth heibio?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1

Roedd Linda Griffiths yn un o ddwy Lywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn ddydd Mawrth (Mai 28). Beth oedd enw’r grŵp gwerin y bu hi’n aelod ohono am flynyddoedd?


Cwestiwn 2

Aeron Pughe oedd Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn ddydd Iau (Mai 30). Mae’n adnabyddus am chwarae pa gymeriad yn sioeau CYW ers nifer o flynyddoedd?


Cwestiwn 3

Wanesa Kazmierowska o Abertawe oedd enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024. O ba wlad mae hi’n dod yn wreiddiol?


Cwestiwn 4

Pwy sydd wedi derbyn Medal Gerddoriaeth gan Ŵyl y Gelli yr wythnos hon am ei gyfraniad i gerddoriaeth?


Cwestiwn 5
Y Beatlesgolwg360 / Alun Rhys Chivers

Yn Efrog Newydd, roedd gitâr acwstig a gafodd ei defnyddio gan John Lennon wedi torri record mewn arwerthiant. Beth oedd y swm gafodd ei dalu am y gitâr?


Cwestiwn 6
Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Pa ymosodwr ifanc a mab cyn-chwaraewr canol cae Cymru sydd wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf ar gyfer dwy gêm gyfeillgar ym mis Mehefin?