Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydach chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

 

 

 

Cwestiwn 1
Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwchMichael Swan (CCA3.0)

Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi y bydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal yn fuan. Beth yw’r dyddiad ar gyfer yr etholiad?


Cwestiwn 2

Beth oedd y gân oedd i’w chlywed yn y cefndir pan oedd Rishi Sunak yn gwneud ei gyhoeddiad am yr etholiad y tu allan i Rif 10?


Cwestiwn 3

Wrth i Rishi Sunak ymweld â bragdy yn ne Cymru ar ddechrau’r cyfnod o ymgyrchu, fe achosodd dipyn o benbleth drwy ofyn i’r staff a oedden nhw’n edrych ymlaen at beth dros yr haf?


Cwestiwn 4

Pryd oedd y tro diwethaf i’r Blaid Lafur ddod i rym yn San Steffan?


Cwestiwn 5

Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr wythnos hon mai safle Wylfa ar Ynys Môn yw'r dewis cyntaf ar gyfer adeiladu gorsaf bŵer niwclear. Pryd ddechreuodd yr hen bwerdy niwclear gynhyrchu trydan?


Cwestiwn 6

Bu farw’r cynhyrchydd teledu Gwenda Griffith yn 82 oed yr wythnos hon. Beth oedd enw’r cwmni teledu a sefydlodd yn 1982?