Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydach chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

 

 

 

 

Cwestiwn 1

Cafodd Gŵyl Fel ‘Na Mai ei chynnal ddydd Sadwrn diwethaf (Mai 4). Ym mha bentref yn Sir Benfro mae’r ŵyl yn cael ei chynnal?


Cwestiwn 2

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, faint o yrwyr gafodd eu dal yn torri’r cyfyngiad cyflymder 20mya yng Nghymru ym mis Ebrill?


Cwestiwn 3

Yn y Met Gala yn Efrog Newydd yr wythnos hon, dywedodd y gyrrwr ceir F1 Lewis Hamilton fod ei wisg wedi cael ei ysbrydoli gan bwy? Dyma gliw i chi – y thema oedd garddio neu arddwriaeth...


Cwestiwn 4

Pa chwaraewr rygbi gyhoeddodd yr wythnos hon ei fod yn gadael rhanbarth y Scarlets ar ddiwedd y tymor?


Cwestiwn 5

Pa Aelod Seneddol Ceidwadol oedd wedi gadael y blaid yr wythnos hon er mwyn ymuno a’r Blaid Lafur?


Cwestiwn 6
S4C

Mae Sara Davies, enillydd Cân i Gymru eleni, wedi cyhoeddi fersiwn ddawns o ba gân i gefnogi ymgyrch i sicrhau lle i Gymru gystadlu yn yr Eurovision?