Cwis Mawr y Penwythnos

Faint ydach chi’n ei gofio am straeon mawr yr wythnos?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Dyma gwis mawr y penwythnos, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon mawr yn ystod yr wythnos a fu… Faint ydych chi’n ei gofio am y straeon?

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1
S4C

Mae S4C wedi cyhoeddi cyfres newydd sbon, 'Y Llais', sef fersiwn Gymraeg o’r rhaglen ganu 'The Voice'. Pa ganwr opera fydd ymhlith yr hyfforddwyr yn y cadeiriau fydd yn troi?


Cwestiwn 2
Dylan Ebenezer

Bu farw Wyn Lodwick, un o sêr y byd jazz yng Nghymru, yn 97 oed yr wythnos hon. Roedd yn adnabyddus am chwarae pa offeryn?


Cwestiwn 3

Mae gŵyl Calan Mai yn hen draddodiad sy'n nodi dechrau'r haf. Beth yw dyddiad Calan Mai?


Cwestiwn 4

Bydd rali sydd wedi'i threfnu gan Gymdeithas yr Iaith yn cael ei chynnal heddiw (dydd Sadwrn, Mai 4) er mwyn pwyso am ddatrys yr argyfwng tai. Lle mae’r rali yn cael ei chynnal?


Cwestiwn 5
Llywodraeth Cymru

Mae cynlluniau i ehangu Senedd Cymru wedi symud gam ymhellach yr wythnos hon. Bydd y Bil Aelodau ac Etholiadau yn golygu bod maint y Senedd yn cynyddu o faint?


Cwestiwn 6

Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon 2024 yn dychwelyd i’r dref ar Fai 11 gyda dwy ardal newydd sbon. Pryd gafodd yr ŵyl gyntaf ei chynnal?