Cwis Mawr Eisteddfod yr Urdd 2024

Faint ydach chi’n ei wybod am yr ardal lle mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal?

Bethan Lloyd
gan Bethan Lloyd

Mae Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn yn cychwyn heddiw (dydd Llun, 27 Mai hyd at 1 Mehefin). Ond faint ydach chi’n ei wybod am yr ardal lle mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal?

Cwestiwn 1

Pryd oedd y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn?


Cwestiwn 2
Lingo360

Mae’r nifer uchaf erioed o blant a phobol ifanc wedi cofrestru i gystadlu yn y cystadlaethau llwyfan o rownd yr eisteddfodau cylch ac yn y cystadlaethau celf, crefft a dylunio. Faint sydd wedi cofrestru eleni?


Cwestiwn 3

Lle oedd man geni Owain Glyndŵr ym mhentref Llansilin, Sir Drefaldwyn?


Cwestiwn 4

Mae acen Sir Drefaldwyn yn enwog. Beth ydy’r gair fyddai trigolion yr ardal, yn draddodiadol, yn debygol o’i ddefnyddio am ‘ferch’?


Cwestiwn 5

Os ydy trigolion yr ardal yn dweud “cog” neu “cogie” at beth maen nhw cyfeirio?


Cwestiwn 6

Beth ydy’r gair fyddai trigolion yr ardal, yn draddodiadol, yn debygol o’i ddefnyddio am ‘gath’?


Cwestiwn 7

Pa fand roc sy’n cael eu cysylltu gyda bwthyn Bron yr Aur ger Machynlleth?